Cymraeg - Text size A A A - Contact us
NHS
O 1 af Hydref 2007 bydd y gyfraith o ran gwerthu tybaco yn newid. Mae'n anghyfreithlon bellach i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un o dan 18 oed (o gymharu ag 16 oed yn flaenorol) yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ymhlith y cynhyrchion yr effeithir arnynt, mae sigaréts, sigarau, tybaco rhydd a phibau ynghyd a phapurau rholio.
Mae'r rhan fwyaf o oedolion sy'n gaeth i dybaco yn dechrau ysmygu yn eu harddegau. Diben y newid hwn yn y gyfraith yw atal pobl ifanc fel chi rhag dechrau yn y lle cyntaf, fel y gallant osgoi peryglon iechyd difrifol ysmygu.
Os gofynnir i chi ddangos cerdyn adnabod, neu os gwrthodir gwerthu cynhyrchion tybaco i chi, ceisiwch ddeall. Gall manwerthwyr gael dirwy os torrant y gyfraith, felly mae sicrhau nad ydynt yn gwerthu tybaco i bobl o dan 18 oed bellach yn rhan o'u gwaith.